Enghraifft o'r canlynol | scientific hypothesis |
---|---|
Math | oes, hypothetical scientific object |
Rhan o | history of life |
Dechreuwyd | 1968 |
Mae'r term Byd RNA yn cyfeirio at y ddamcaniaeth mai RNA oedd y moleciwl gyntaf i fod yn hunan atgynhyrchiol wrth i fywyd ymddangos ar y ddaear[1][2]. Roedd Francis Crick, ag eraill, wedi sylweddoli ei fod yn annhebygol mai DNA a fyddai'n ateb y galw yma. Mae'r term "Byd RNA" yn cyfeirio at y cyfnod hanesyddol (tua 4 mil miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP)), cyn i'r gyfundrefn bresennol o DNA gychwyn.